Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 3 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10.00 - 11.34 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Mike Hedges AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol David Pritchard, Llywodraeth Cymru Kate Johnson, Llywodraeth Cymru Mari Williams, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Helen Finlayson (Ail Glerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle a Kirsty Williams. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.
2 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 17
2.1 Bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.
2.2 Cytunodd y Gweinidog:
· i ddarparu nodyn ar lwybrau gwneud yn iawn neu lwybrau apêl i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn perthynas ag asesiadau cymhwysedd;
· i ddarparu nodyn ar yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gontractau dim oriau, gan nodi sut y gellir mynd i'r afael â'r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol drwy'r Bil; ac
· i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn canfod dichonoldeb cyflwyno darpariaethau priodol yn y Bil i ddiogelu unigolion sy'n dymuno chwythu'r chwiban ar arferion gwael a all roi unigolion eraill mewn perygl.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015.
3.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015.
3.2 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol
3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Age Cymru, Cynghrair Henoed Cymru, a'r Gymdeithas Brydeinig dros Fabwysiadu a Maethu. Nodwyd hefyd fod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan y Rhwydwaith Maethu a chan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanfon at yr Aelodau a'i chyhoeddi ar y dudalen we ar gyfer y Bil.
3.3 Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.